ElsbethJONESDymuna teulu'r ddiweddar Elsbeth Jones, Lleifior, Rhos Isaf, ddatgan eu diolch cywiraf am bob arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd dderbyniwyd ganddynt yn eu profedigaeth o golli Elsbeth. Diolch i'r Parchedigion Gwenda Richards, Megan Williams ac Elwyn Richards am eu gwasanaeth teilwng ddydd yr angladd, ac i Dylan Huw Jones yr organydd. Diolch am y nifer fawr o gardiau a llythyrau a dderbyniwyd, ac am y rhoddion hael o £1827 i'w rhannu rhwng Cronfa Sefydliad Prydeinig y Galon a Changen Bangor o'r Samariaid. Diolch i Mrs. Gill Evans, Blodau Bach, Caeathro, am y blodau hardd ac i Fwyty Clwb Golf, Caernarfon am y lluniaeth ardderchog wedi'r angladd. Diolch i Huw a Beti Jones, Pontllyfni am eu trefniadau. 
Diolch yn fawr iawn i bawb.
                        
                                    
        	     Keep me informed of updates
         
                                    Add a tribute for Elsbeth